Comisynwyd Léa gan y delynores Gwen Màiri i greu‘r ffilm hwn fel ymateb i drefniant Gwen o ‘Birjina gaztettobat zegoen’, carol draddodiadol o Wlad y Basg.

Datblygodd Léa’r stori drwy wrando ar y trac er mwyn i’r drama a’r cyffro ym mherfformiad Gwen lywio’r naratif. Treiddiodd themau fel cyfeillgarwch, colled, a’r newid yn y tymhorau yn naturiol trwy’r gwaith animeiddio a cheir hefyd dylanwad caneuon o Wlad y Basg sy’n cyfeirio at y Robin a’r Dryw.

Cafodd y ffilm ei chreu drwy broses o animeiddio stop motion, gyda dros 2000 o ffotograffau yn cael eu cymeryd i greu’r symudiad yn y ffilm. Er y datblygiad mewn cyfrwng, mae diddordeb mewn marciau unigryw torluniau pren wedi aros yn ganolog i waith Léa. Crewyd y golygfeydd drwy argraffu torluniau ar bapur, cyn torri a gludo’r printiau i greu cymeriadau a thirluniau i’w symud â llaw rhwng pob ffotograff.