Cyfres o brintiau Photopolymer ar gyfer sioe raddio yn y Glasgow School of Art.

Wrth wraidd fy ngwaith mae datblygiad y traddodiad chwedlonol yng Nghymru a’r ffordd y mae’n fythol newid. Cafodd y straeon eu perfformio a’u hadrodd ar lafar am ganrifoedd cyn cael eu cofnodi ar bapur, ac yna eu dehongli ymhellach drwy addasiadau, cyfieithiadau a darluniau.

​Wedi fy magu yn rhugl dairieithog, rwyf â diddordeb mewn datblygiadau a gwyrdroadau wrth symud o un cyfrwng neu iaith i’r llall. Er mwyn creu fy mhrintiau rhof fy nehongliad o bytiau o straeon drwy gadwyn o brosesau (torlunio pren, argraffu sgrin, creu modelau, ffotograffiaeth, ysgythru a boglynwaith). Mae pob cam yn y broses hon yn adlewyrchu trawsnewidiadau o fewn y chwedlau gwreiddiol.

Y canolbwynt yw crefft y storiwr beth bynnag yw ei gyfrwng. Nid oes rhaid adnabod y straeon, gan mai’r bwriad yw caniatau i’r sawl sy’n edrych ar y gwaith greu ei naratif ei hun trwy ei ddehongliad o’r cyfresi o ddotiau a llinellau sy’n ffurfio iaith printio.