Rwy’n wneuthurwr print ac yn animeiddiwr o Ben Llŷn, sy’n byw yng Nghaerdydd.
Mae gen i ddiddordeb mewn chwedlau ac adrodd straeon, ein hamgylchedd, a chreu ymdeimlad o le. Yn aml rwy’n defnyddio cadwyn o brosesau (print, collage, modelau papur, ffotograffiaeth, ac animeiddio) i adlewyrchu’r esblygiad a’r newidiadau o fewn chwedlau a straeon wrth iddynt gael eu hadrodd.